#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
1. Cyflwyniad
Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith yn y Cynulliad ac yn Llywodraeth Cymru; ar lefel yr UE; ar lefel y DU; yr Alban ac Iwerddon. Mae'n ymdrin â'r cyfnod rhwng 23 Tachwedd a 6 Rhagfyr, er y cyfeirir at ddigwyddiadau diweddarach lle y mae gwybodaeth ar gael ar adeg y drafftio terfynol.
2. Datblygiadau yng Nghymru
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol
Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yw prif bwyllgor y Cynulliad ar gyfer cydgysylltu gweithgareddau'r Pwyllgorau sy'n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Pwyllgor yn cynnal ymchwiliad ar y Goblygiadau Posibl i Gymru wrth Adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae sesiynau mwyaf diweddar ymchwiliad y Pwyllgor fel a ganlyn:
§ 28 Tachwedd: Cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn rhanddeiliaid yn Wrecsam, gan ganolbwyntio ar fuddiannau busnes yn y ddadl ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd.
§ 5 Rhagfyr: Cynhaliodd y Pwyllgor y Fforwm EC-UK yn y Senedd. Rhoddodd Cadeirydd pob Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am eu gwaith sy'n ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd, a chynhaliwyd sesiynau ar gysylltiadau o fewn y DU a gwaith y Fforwm EC-UK yn y dyfodol (mae rhagor o wybodaeth am hyn isod).
Mae gwybodaeth reolaidd am waith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i’w gweld ar flog y Cynulliad: https://blogcynulliad.com/2016/10/21/brexit-yng-nghymru-amaethyddiaeth-a-physgodfeydd/.
Arall
Mae sawl un o Bwyllgorau'r Cynulliad yn trafod ymchwiliadau posibl i faterion sy'n ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd ac, wrth i'r rhain ddod yn fwy cadarn, byddwn yn cynnwys manylion yn y papur hwn ar y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Dadleuon yn y Cyfarfod Llawn
§ Ar 29 Tachwedd atebodd y Cwnsler Cyffredinol Gwestiwn Brys: Cytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Llywodraeth Cymru
6-7 Rhagfyr: Ymwelodd y Prif Weinidog Carwyn Jones AC â Brwsel ar gyfer cyfres o gyfarfodydd yn ymwneud â gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys cyfarfod â'r Comisiwn Ewropeaidd i drafod Prosiect Metro De Cymru. Cyfarfu hefyd â Karmenu Vella, Comisiynydd yr Amgylchedd, Materion Morol a Physgodfeydd, a Gianni Pittella ASE, Llywydd Grŵp y Sosialwyr a'r Democratiaid yn Senedd Ewrop.
2 Rhagfyr: £1 biliwn o gronfeydd strwythurol yr UE wedi cael eu buddsoddi yng Nghymru.
24 Tachwedd: Hwb ariannol gan yr UE i ehangu prosiect sgiliau ledled Cymru.
3. Datblygiadau ar lefel yr UE
Y Cyngor Ewropeaidd
29 Tachwedd: Llythyr mewn ymateb i rai o seneddwyr y DU ar statws dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU sy'n byw ac yn gweithio yn Ewrop.
Y Comisiwn Ewropeaidd
6 Rhagfyr: Yn ei sesiwn gyntaf i'r wasg, dywedodd Michel Barnier, negodwr y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, y bydd gan y DU 18 mis i drafod y fargen ar gyfer gadael, gan fod yn rhaid caniatáu amser i'r ddwy ochr sefydlu eu safbwyntiau cychwynnol a chytuno ar y fargen. Awgrymodd mis Hydref 2018 fel dyddiad gorffen ar gyfer y trafodaethau cyn eu cadarnhau. (Politico)
Newyddion Ewropeaidd
25 Tachwedd: Nid yw arweinwyr yr UE yn “smalio" pan maent yn dweud y bydd y DU yn cael ei gadael heb fynediad i'r farchnad sengl pan fydd yn gadael y bloc os nad oes rhyddid i bobl symud - Joseph Muscat, Prif Weinidog Malta, y mae ei wlad yn cymryd llywyddiaeth yr UE ym mis Ionawr. (Cyfweliad y BBC).
4. Datblygiadau ar lefel y DU
Achos Erthygl 50...ac Erthygl 127
Mae manylion am drafodion y Goruchaf Lys (5-8 Rhagfyr) ar gael yma: www.supremecourt.uk/cases/uksc-2016-0196.html.
25 Tachwedd: Cyflwynodd Cwnsler Cyffredinol Cymru ei bapurau ysgrifenedig i'r Goruchaf Lys, a chyhoeddwyd hwy.
28 Tachwedd: Mae dadl Arglwydd Adfocad yr Alban wedi cael ei chyhoeddi.
30 Tachwedd: Cyhoeddir papur ceiswyr Gogledd Iwerddon. Mae'n mynegi'r posibilrwydd o gyfeirio'r achos at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd i bennu a oes modd diddymu hysbysiad o dan Erthygl 50.
1 Rhagfyr: Cyhoeddodd Llywodraeth y DU bapur i'r Goruchaf Lys yn ymateb i ymyriadau sy'n seiliedig ar ddeddfwriaeth ddatganoli.
4 Rhagfyr: "Os mai 'cymryd yr awenau yn ôl' yw holl bwynt gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna mae ceisio diystyru cyfansoddiad Prydain yn ddechrau gwael” - Cwnsler Cyffredinol Cymru
Ar 5 Rhagfyr Mae British Influence yn cynllunio her gyfreithiol er mwyn gorfodi'r llywodraeth i sicrhau cymeradwyaeth seneddol cyn cymryd y DU allan o Farchnad Sengl Ewrop, gyda'r ddadl y byddai angen sbarduno Erthygl 127 o gytundeb yr Ardal Economaidd Ewropeaidd ar gyfer hynny.
Llywodraeth y DU
28 Tachwedd: Cyfarfu'r Prif Weinidog Theresa May â Beata Szydło, Prif Weinidog Gwlad Pwyl i drafod materion gan gynnwys gadael yr Undeb Ewropeaidd, masnach a chysylltiadau dwyochrog.
29 Tachwedd: Siaradodd y Prif Weinidog Theresa May â'r darpar Arlywydd Donald Trump am feithrin cydberthynas agos rhwng y DU a'r UD ac am rôl NATO.
22 Tachwedd: Cyfarfu'r Prif Weinidog Theresa May â Charles Michel, Prif Weinidog Gwlad Belg i drafod materion gan gynnwys gadael yr Undeb Ewropeaidd a gwrthderfysgaeth.
Fforwm EC-UK:
Ar 5 Rhagfyr cynhaliodd David Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol gyfarfod o'r Fforwm EC-UK yn y Cynulliad. Mae'r Fforwm EC-UK yn gyfarfod anffurfiol, a gynhelir o dan reolau Chatham House, o Gadeiryddion Pwyllgorau Ewropeaidd (neu gyfatebol) yn Nhŷ'r Cyffredin (Pwyllgor Craffu Ewropeaidd, a'r Pwyllgor sydd newydd ei sefydlu, sef y Pwyllgor Gadael yr Undeb Ewropeaidd), Tŷ'r Arglwyddi (Pwyllgor Dethol yr UE), Senedd yr Alban (Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Materion Ewropeaidd ac Allanol), a Chynulliad Gogledd Iwerddon (Pwyllgor ar gyfer y Swyddfa Weithredol). Cynhelir y Fforwm ddwywaith y flwyddyn mewn gwahanol leoliadau yn eu tro.
Dyma gyfarfod cyntaf y Fforwm EC-UK ers yr etholiadau diweddar, ac ers pleidlais Refferendwm yr UE, ac roedd yn canolbwyntio'n bennaf ar graffu ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.
Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE)
Cyfarfu Cydbwyllgor y Gweinidogion (Trafodaethau'r UE) yn Llundain ar 7 Rhagfyr.
Tŷ’r Cyffredin
Ar 23 Tachwedd, trafododd y Tŷ y pwnc Gadael yr Undeb Ewropeaidd a Thrafnidiaeth, ac ar 25 Tachwedd, Gadael yr Undeb Ewropeaidd: Y Sector Hedfan.
Yng Nghwestiynau Llafar Cymru ar 30 Tachwedd, atebodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys Ei Mawrhydi gwestiynau am oblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd i Gymru.
Ar 1 Rhagfyr, atebodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd; y Gweinidog Gwladol, yr Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd (David Jones AS); a'r Is-ysgrifennydd Gwladol dros Adael yr Undeb Ewropeaidd gwestiynau llafar ar Adael yr Undeb Ewropeaidd.
Hefyd, ar 1 Rhagfyr trafodwyd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ystod dadl ar y Diwydiant Pysgota yn y DU.
Ar 15 Tachwedd cafwyd dadl ohirio ar Adael yr UE: Cyllid y GIG.
Ar 7 Rhagfyr cafwyd dadl ar Gynllun y Llywodraeth ar gyfer Gadael yr Undeb Ewropeaidd, a oedd yn cymeradwyo'r Llywodraeth yn cyhoeddi ei chynlluniau cyn sbarduno Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
Ar 8 Rhagfyr, cyhoeddodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ei adroddiad ar gysylltiadau rhyngsefydliadol yn y DU, gan ddweud bod yn rhaid i gysylltiadau rhynglywodraethol y DU wella wrth i drafodaethau i adael yr Undeb Ewropeaidd ddechrau.
Ar 23 Tachwedd, clywodd y Pwyllgor ar Adael yr Undeb Ewropeaidd gan 'felinau trafod' ynglŷn ag amcanion negodi'r DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae'r Pwyllgor Materion Tramor yn galw am dystiolaeth ysgrifenedig ar y goblygiadau i'r DU os bydd y cyfnod negodi o ddwy flynedd a fandadwyd yn sgil Erthygl 50 yn dod i ben heb drefnu unrhyw gytundeb o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ar 30 Tachwedd, cafodd y Pwyllgor ar Adael yr Undeb Ewropeaidd dystiolaeth am amcanion negodi'r DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ar 7 Rhagfyr cafwyd tystiolaeth o'r safbwynt busnes.
Tŷ’r Arglwyddi
Mae Pwyllgor Undeb Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi a'i chwe is-bwyllgor yn cynnal "cyfres gydgysylltiedig o ymholiadau ar y materion allweddol a fydd yn codi yn y trafodaethau sydd i ddod ar adael yr Undeb Ewropeaidd".
Ar 28 Tachwedd, roedd cwestiwn ar ymrwymiadau i wahanol sectorau diwydiant ynghylch masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Ar 30 Tachwedd, roedd cwestiwn ar y Polisi Mewnfudo ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Ar 1 Rhagfyr cafwyd dadl ar gydberthynas y DU a'r UE ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Cafodd Is-bwyllgor Ynni a'r Amgylchedd yr UE dystiolaeth ar ddyfodol polisi'r amgylchedd a'r newid yn yr hinsawdd ar 23 Tachwedd. Ar 30 Tachwedd, cyhoeddodd y pwyllgor dystiolaeth ysgrifenedig gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru.
Ar 30 Tachwedd, cafodd Is-bwyllgor Materion Cartref yr Undeb Ewropeaidd dystiolaeth gan academyddion ynghylch yr opsiynau posibl ar gyfer symudiad pobl rhwng y DU a'r UE ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Cafwyd tystiolaeth gan Undebau a melinau trafod ar 7 Rhagfyr.
Mae Is-bwyllgor Materion Allanol yr UE ac Is-bwyllgor Marchnad Fewnol yr UE yn ymchwilio i fasnach rhwng y DU a'r UE mewn nwyddau a gwasanaethau. Ar 25 Tachwedd, cyhoeddwyd tystiolaeth ysgrifenedig gan Adran Gadael yr Undeb Ewropeaidd a'r Adran Masnach Ryngwladol, yn ogystal â thystiolaeth gan Dr Pinar Artiran.
Ar 6 Rhagfyr, cafodd Is-bwyllgor Cyfiawnder yr UE dystiolaeth gan academyddion allweddol, ymarferwyr a chyn uwch-farnwyr ar ddechrau ei ymchwiliad newydd: Gadael yr Undeb Ewropeaidd: cydweithredu cyfiawnder sifil a Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r sesiwn dystiolaeth nesaf ar 13 Rhagfyr gyda chyfreithwyr.
Newyddion
29 Tachwedd: Llywydd SMMT yn annog y llywodraeth i "wneud y penderfyniadau cywir" ac aros yn y farchnad sengl gan fod diwydiant moduron y DU yn wynebu bygythiad o dariff gwerth £4.5 biliwn ar geir. (Cymdeithas y Gwneuthurwyr a Masnachwyr Moduron)
5. Yr Alban
Senedd yr Alban
29 Tachwedd: Cafwyd dadl ar Ddiwylliant, Diwydiannau Creadigol a Thwristiaeth (Refferendwm yr Undeb Ewropeaidd)
Llywodraeth yr Alban
25 Tachwedd: Prif Weinidogion yr Alban a Chymru yn trafod gadael yr Undeb Ewropeaidd.
6. Gogledd Iwerddon
Cynulliad Gogledd Iwerddon
Ar 29 Tachwedd gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad, wedi'i ddilyn gan ddadl, ar y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig 25 Tachwedd.
7. Y cysylltiadau rhwng y DU ac Iwerddon
29 Tachwedd: Rhoddodd Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, anerchiad i'r Seanad Éireann.
8. Adroddiadau eraill a gyhoeddwyd
Tŷ’r Cyffredin
§ Brexit: some legal, constitutional and financial unknowns
§ Legislating for Brexit: the Great Repeal Bill
Tŷ’r Arglwyddi
§ Leaving the European Union: Future UK-EU Relationship
Arall
§ How the UK economy’s key sectors link to the EU’s Single Market (Canolfan Economeg ac Ymchwil Busnes)